Hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ym Mhenmachno neu Gwm Penmachno?
Mae gan y Cyngor Cymuned dudalen Facebook (isod).
Mae gan y ddau bentref dudalennau Facebook hefyd.
(Nid yw Cyngor Cymuned Bro Machno yn gyfrifol am y cynnwys ar y tudalennau Facebook Penmachno a Chwm Penmachno).
Gweld y dudalen Penmachno yma (nid oes angen cyfrif Facebook)
Penmachno
Gweld y dudalen Cwm Penmachno yma (nid oes angen cyfrif Facebook)
Cwm Penmachno
Facebook Cyngor Cymuned Bro Machno
73
Cyngor Cymuned Bro Machno
Mae’r Cyngor Cymuned Bro Machno yn gwasanaethu cymunedau Penmachno a Chwm Penmachno
Bydd y Cyngor Cymuned yn trefnu cyfarfod cyhoeddus cyn i'r ffordd gael ei chau am y tro cyntaf am hanner tymor. Bydd hwn yn gyfle gwych i rannu'r manylion efo pawb yn ein cymuned.🚦🛑🚧⚠️🚗🚚🚛🗓️The Community Council will arrange a public meeting before the road is closed for the first time at half term. This will be a great opportunity to share the details with everyone in our community.
DIWEDDARIADYr wythnos yma, cynhaliodd y Cyngor Cymuned gyfarfod ddefnyddiol iawn gyda rhanddeiliaid am y gwaith ffordd. Yn bresennol yn y cyfarfod roedd SP Energy, OCU Group ac, o'r Cyngor Sir, Peirianwyr Gwaith Stryd ac aelodau o'r tîm Rheoli Gwastraff. Yn anffodus, nid oedd tîm cludiant ysgol y Cyngor Sir yn gallu bod yn bresennol ond maent yn cael cyfarfod gyda Llew Jones yr wythnos nesaf a byddant wedyn yn rhoi diweddariad.Bydd y ffordd ar gau mewn pedwar cyfnod, fel yr hysbysebwyd yn flaenorol. Yr unig newid ydy i'r cyfnod cyntaf (22 Chwefror - 03 Mawrth) - bydd y B4406 ar gau yn ystod y dydd yn unig, nid yn ystod y nos.Bydd rheolaeth traffig “stop / go” yn cael ei ddefnyddio yn ystod y dydd ar gyfer cerbydau sy'n gyrru ar hyd Ffordd Groesffordd (Topiau). Fe gysylltodd y Cyngor Cymuned â CNC ynglŷn â defnyddio traciau coedwig. Ni fydd CNC yn caniatáu i'r goedwig gael ei defnyddio fel hyn ac mae gyrru yn y goedwig yn erbyn y gyfraith.Os oes unrhyw newidiadau i’r cynlluniau hyn, mae’r Cyngor Cymuned wedi gofyn am gymaint o rybudd â phosib er mwyn i ni allu rhoi gwybod i chi.Bydd y Cyngor Cymuned yn parhau i weithio'n galed ar eich rhan i leddfu problemau a achosir gan y gwaith ffordd. Bydd diweddariadau swyddogol bob amser yn ymddangos ar dudalen Facebook y Cyngor Cymuned ac, er na allwn ymateb i bob sylw, mae croeso i chi adael sylwadau ar dudalennau swyddogol Facebook pob pentref: "Cwm News" a "Penmachno".---This week, the Community Council held a very productive meeting with stakeholders about the roadworks. At the meeting were SP Energy, OCU Group and, from the County Council, Street Works Engineers and members of the Waste Management team.Sadly, the County Council’s school transport team were unable to attend but they have a meeting with Llew Jones next week and will then provide an update.The road closures will go ahead in four phases, as previously advertised. The only change is to the first phase (22 February - 03 March) - the B4406 will be closed only during the day, not during the night.Stop / Go traffic management will be used during the day for vehicles driving along Ffordd Groesffordd (Topiau). The Community Council did contact NRW about use of forest tracks. NRW will not allow the forest to be used in this way and driving in the forest is against the law.If there are any changes to these plans, the Community Council has asked for as much notice as possible so that we can let you know.The Community Council will continue to work hard on your behalf to alleviate problems caused by the roadworks. Official updates will always appear on the Community Council's Facebook page and, although we cannot respond to every comment, you are welcome to leave comments on the official village Facebook pages: "Cwm News" and "Penmachno".
Rhowch yr anrheg gorau i’ch cymuned leol y Nadolig hwn trwy adael olion pawennau yn unig wrth fynd allan gyda’ch anifeiliaid anwes 🐾🎁Perchnogion call sy’n clirio ble bynnag y maent yn crwydro – hyd yn oed yn ystod nosweithiau tywyll y gaeaf 🐶 a hyd yn oed pan fyddwch chi'n cerdded yn y goedwig 🎄🎄🎄🎄#BagiwchBiniwch #CaruCymru---Give your local community the best present this Christmas by leaving only pawprints when out and about with your four-legged friends 🐾🎁Dog owners who care pick up everywhere - even in these dark winter evenings 🐶 and even when you're walking in the forest 🎄🎄🎄🎄#BagItBinIt
Ydych chi'n cael hi'n anodd gweld traffig sy'n dod tuag atoch wrth droi ar y B4406 o Ffordd Grenyn? Mae'r Cyngor Cymuned wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor Sir i wella diogelwch y gyffordd. Edrychwch ar y drych i weld a yw cerbydau'n agosáu! 😀Gyda diolch i'r bois yn Londis Penmachno am yr awgrym ardderchog.---Do you find it difficult to see oncoming traffic when turning onto the B4406 from Grenyn Road? The Community Council has been working with the County Council to improve the safety of the junction. Look at the mirror to see if vehicles are approaching! 😀 With thanks to the guys at Londis Penmachno for the excellent suggestion.