Mynd i'r cynnwys

Y Gymuned

Mae gan bentrefi Penmachno a Chwm Penmachno dudalennau Facebook (Nid yw Cyngor Cymuned Bro Machno yn gyfrifol am y cynnwys ar y tudalennau Facebook). Edrychwch ar y tudalennau yma ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal:

Penmachno


Cwm Penmachno

Ysgol Gynradd Penmachno

Penmachno, Betws-y-coed LL24 0PT         01690 760394

Pennaeth: Bethan Davies     pennaeth@penmachno.conwy.sch.uk

Roedd 155 o ddisgyblion yn bresennol ar y diwrnod cyntaf pan agorwyd Ysgol y Cyngor, Penmachno ar 4 Ionawr 1909. Am gyfnod, o hynny hyd at 1914, roedd cymaint â chwech o ysgolion yn gwasanaethu’r plwy’ gan ddarparu addysg i tua 350 o ddisgyblion: Ysgol y Cyngor a’r Ysgol Genedlaethol (yr Hen Ysgol) ym Mhenmachno, Ysgol Genedlaethol yn Cwm gyda changen i’r plant lleiaf yng Nghapel Carmel ac ysgolion y cyngor yn Rhiw-bach a Cyfyng yn y Wybrnant. Heddiw mae ychydig dros 40 o ddisgyblion yn yr unig ysgol sydd ar ôl.

Am fwy o wybodaeth gyfredol gweler gwefan yr ysgol: www.ysgolpenmachno.org

Eglwys Sant Tudclud

Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1859; fodd bynnag, dyma’r drydedd Eglwys y gwyddys amdani ar y safle hwn. Mae’r eglwys hefyd yn gartref i gerrig enwog Penmachno, casgliad o gerrig arysgrifenedig y credir eu bod yn dyddio o ddiwedd y 5ed a chanol y 6ed ganrif.

Caewyd Eglwys Sant Tudclud ym 1997, ond trwy ewyllys gref cymuned y pentref a’r ardal, fe’i hail-agorwyd yn 2009 – yr eglwys gyntaf yn yr Eglwys yng Nghymru i’w hail-agor wedi iddi ei dynodi’n ddianghenraid.

Ers 2009, fe’i dynodwyd yn ‘eglwys genhadol’, yn gwasanaethu fel lle o addoliad i sawl grŵp oddi mewn i’r pentref a hefyd yn gweithredu fel cyfleuster i’r gymuned. Mae’r Eglwys ar agor trwy’r dydd, pob dydd a’r unig le yn y pentref sydd ar agor y rhan fwyaf o’r amser yn darparu lluniaeth i ymwelwyr trwy eu siop goffi helpu’ch hunan.

Mae’r eglwys hefyd yn cynnal cinio cymunedol, ffeiriau crefftau, boreau coffi a chyngherddau.

Gwasanaeth Cymun – Sul cynta’r mis  am 3.00;   Gwasanaeth Teuluol – trydydd Sul am 3.00;   Boreol Weddi – Bore Mercher am 9.00                Warden: Keith Wadcock    01690 760 323

 

Eglwys Unedig Penmachno

Ar un adeg roedd pum addoldy yn gwasanaethu’r plwyf gan y Methodistiaid Calfinaidd a thri gan y Wesleaid (a Tabor, hen gapel y Bedyddwyr Albanaidd) ond bellach un sydd ar ôl a phawb wedi uno i ffurfio Eglwys Unedig Penmachno sy’n cyfarfod yng Nghapel Salem.

Adeiladwyd Salem yn 1873. Tŷ’n-y-porth oedd enw’r capel gwreiddiol a adeiladwyd yn 1811 a’i ymestyn yn 1864 cyn ei droi’n neuadd pan godwyd Salem. Mae’n adeilad sylweddol ac urddasol gydag oriel, nenfwd addurnedig ac organ fawreddog.

Cynhelir gwasanaeth yn rheolaidd am 5.00 o’r gloch bob Sul.

Y Gweinidog: Y Parchedig Gerwyn Roberts, Llanrwst

Blaenor: Iola Jones, Groesffordd Las, Penmachno   01690 760444

Ysgrifennydd: Anwen Gwyndaf, Llechwedd Hafod, Penmachno     01690 760241

Y Frawdoliaeth Gristnogol

Grŵp o bobl sy’n cyfarfod yn rheolaidd ers nifer o flynyddoedd yw’r Frawdoliaeth

Canolfan Shiloh

Hen gapel y Wesleaid wedi’i drosi’n ganolfan gymunedol i Gwm Penmachno yw Shiloh, ac mae ychydig o’i nodweddion gwreiddiol i’w gweld o hyd, yn arbennig y nenfwd addurnedig. Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau drwy’r flwyddyn ac mae yma hefyd Ystafell Dreftadaeth unigryw sy’n dathlu hanes a diwylliant bro Machno. Mae’n cynnwys paneli dehongli, ffotograffau hanesyddol, arteffactau, model o ’r dyffryn a fideo rhyngweithiol yn rhoi’r hanes ar lafar. Cysyllter â: shilohevents.icloud.com@send.mailchimpapp.com                                 neu 13 Machno Terrace, Cwm Penmachno LL24 0SA

Y Neuadd Goffa (Yr Hen Ysgol)

Dyma adeilad yr Ysgol Genedlaethol, ysgol dan reolaeth yr Eglwys Wladol a sefydlwyd yn 1865 ond a gaeodd yn 1921 gyda dim ond 13 o ddisgyblion yn weddill. Gwell oedd gan rieni Penmachno, y rhan fywaf yn gapelwyr selog, i’w plant gael eu haddysg yn adeilad newydd Ysgol y Cyngor.   Mae’r enw Hen Ysgol wedi aros ar lafar er mai’r Neuadd Goffa yw’r enw swyddogol ers trosi’r adeilad yn ganolfan gymdeithasol yn 1945.

Dyma lle mae cymdeithasau fel Merched y Wawr a’r Cylch Ti a Fi yn cyfarfod ac yma hefyd mae ystafelloedd newid Clwb Peldroed Machno Unedig

Clwb Peldroed Machno Unedig

Mae’r clwb peldroed wedi bod yn rhan ganolog o fywyd yr ardal ers cenedlaethau. Ymunodd Penmachno â Cynghrair Dyffryn Conwy ar gyfer tymor 1929-30; golygai hynny gemau darbi tanbaid yn erbyn Cwm Rangers!   Wedi’r Ail Rhyfel Byd, a phoblogaeth y fro yn gostwng, unodd y ddau dîm yn 1947 i ffurfio Machno Unedig.

Bu Machno’n llwyddiannus iawn yn y 60 mlynedd a mwy ers hynny, llwyddiant sy’n cynnwys 12 pencampwriaeth gwahanol gynghreiriau, dod yn ail naw gwaith a chipio chwech o gwpanau, gan gynnwys Cwpan Iau Gogledd Cymru ddwywaith. Wedi cyfnod ar ddiwedd y 1980au yng Nghynghrair Gwynedd ac yna ar ddechrau’r ganrif hon, bu Machno hefyd yn chwarae yng Nghynghrair Caernarfon a’r Cylch gan ddod yn bencampwyr yn 2012 pan bu’n rhaid symud eto i Gynghrair Conwy a Chlwyd. Gorffenwyd y tymor cyntaf ar frig yr Adran Gyntaf a sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Adran. Chwaraeir y gemau ar gae Tŷ’n Ddol.

Collodd y clwb aelod arbennig iawn ym Mai 2009 pan fu farw’r Is-gorporal Martin Richards – Rambo i’w gyfeillion – o ganlyniad i anafiadau tra’n gwasanaethu yn Helmand yn Afghanistan. Roedd clwb peldroed Machno’n agos iawn at ei galon ac ni chollai gyfle pan fyddai gartref i gadw cysylltiad. Mae’r cof am ei frwdfrydedd a’i ddulliau hyfforddi egniol a gwahanol yn dal yn fyw i’w ffrindiau ac mae’n parhau’n ysbrydoliaeth i’r tîm.

Ysgrifennydd: Delyth Griffiths, Llys Ifor, Penmachno 01690 760

Côr Penmachno

Mae côr llais cymysg dan arweiniad Liz Green yn cynnal arferion, sydd wedi ei leoli yn Eglwys Sant Tudclud, ar nos Wener. Fel arfer mae’r côr yn cynnal cyngherddau yn yr haf ac adeg y Nadolig.

Seindorf Arian Machno

Mae’n debyg bod seindorf yng Nghwm Penmachno cyn belled nôl â’r 1830au ac mae’r traddodiad yn parhau! Tua canol yr 20fed ganrif dau o arweinyddion y band oedd Robert Thomas a’i fab, y tenor adnabyddus, Richie Thomas. Erbyn 1966 Dilwyn Evans oedd yr arweinydd a llwyddodd i gadw’r band i fynd hyd at ei farwolaeth yn 2006. Ail sefydlwyd y band wedi hynny a’r arweinydd presennol yw Gerwyn Edwards (neu Wil Tŷ Mawr!). Clywir y band yn chwythu mewn llawer o ddigwyddiadau lleol a byddant yn ymarfer yn rheolaidd yn

Merched y Wawr

Sefydlwyd cangen Penmachno o Ferched y Wawr yn 1984 a byddant yn cyfarfod yn fisol o’r hydref i’r gwanwyn yn y Neuadd Goffa. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau ac ymweliadau a chefnogir digwyddiadau lleol ac achosion dyngarol. Croeso cynnes i aelodau newydd o bob oed – sy’n ferched!                                                Ysgrifennydd: Dilys Roberts 01690 760302

Ti a Fi

Mae’r grŵp hwn i blant cyn oed ysgol a’u rieni a’u gofalwyr yn cyfarfod yn y Neuadd Goffa yn wythnosol.

 

Menter Bro Machno

Sefydlwyd Menter Bro Machno i hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol y fro ac mae wedi bod yn gyfrifol am sawl prosiect gan gynnwys cynhyrchu llyfr o ffotograffau o bobl yr ardal gyda nodiadau ar hanes lleol. MBM hefyd fu’n gyfrifol am ddatblygu ac am gynnal a chadw’r traciau beicio mynydd drwy’r coedwigoedd lleol.

 

Beicio Mynydd

Mae bellach dros 30 cilomedr o lwybrau trac sengl yn troelli drwy goedwigoedd Bro Machno gyda golygfeydd gwych a rhai rhannau heriol sy’n sialens i’r beicwyr mwyaf profiadol.