Mynd i'r cynnwys

Croeso

Cyngor Cymuned Bro Machno

croeso

Penmachno o Bythynnod Benar
Slide 1
Slide 2

Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor Cymuned nos Iau 12 Medi, 7.30 yn Festri Capel Salem, Penmachno

Mae’r cyngor yn gwasanaethu cymunedau Penmachno a Chwm Penmachno, ardal wledig ym mhen uchaf Dyffryn Conwy lle bu’r diwydiant llechi yn bwysig iawn ar un adeg.  Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd poblogaeth Bro Machno yn 617, tua thraean o’r hyn ydoedd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sefydlwyd Cyngor Plwyf Penmachno yn 1894 ac, yn wahanol i arfer y cyfnod ar gyfer gweithgareddau swyddogol, gweithredodd y cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg o’r dechrau.  Diwygiwyd llywodraeth leol yn 1974 a daeth Cyngor Cymuned Bro Machno i fodolaeth bryd hynny.

Cadeirydd: Eryl Owain

Clerc: Daniel Tomos. Gallwch gysylltu â’r clerc, yma

Gellir gweld Cofnodion yma a Mantolenni Ariannol yma.