Cynghorau cymuned yw’r haen o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl. Mae nhw’n gwasanaethu’r ardal leiaf ac yn gyfrifol am y materion mwyaf lleol. Mae cyfrifoldebau Cyngor Cymuned Bro Machno yn cynnwys:
Mynwentydd– Mae’r Cyngor Cymuned yn berchen ar ac yn rheoli’r mynwentydd yn Eglwys Sant Tudclud ac Arwelfa.
Llwybrau cyhoeddus – rhennir y cyfrifoldeb o gynnal a chadw llwybrau’r plwyf gyda Chyngor Sir Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Toiledau – Ers 2017, mae’r Cyngor Cymuned wedi bod yn gyfrifol am y Toiled Cyhoeddus ym Mhenmachno.
Cynllunio – mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio (sef Parc Cenedlaethol Eryri) ymgynghori â’r cyngor cymuned ar geisiadau cynllunio lleol. Mae cyfle i’r cyngor fynegi barn ond y Parc Cenedlaethol sy’n gwneud y penderfyniadau.
Llais i’r gymuned – mae’r cyngor yn gweithredu fel llais ar ran y gymuned leol wrth ymwneud â’r cyngor sir ac asiantaethau cyhoeddus a chyrff eraill.
Cyllid – mae hawl gan y cyngor i godi treth fel rhan o Dreth y Cyngor. Gweler isod am fwy o wybodaeth.
Amrywiol – gall y cyngor gefnogi ac hyrwyddo prosiectau lleol sydd o fudd i’r gymuned
Cyllid
Mae’r hawl sydd gan gynghorau cymuned a thref i godi archebiant ar y dreth gyngor yn un o’r pwerau mwyaf sylweddol sydd ganddynt. Mae’n sicrhau incwm cyson i’w ail-fuddsoddi yn y gymuned er lles y gymuned.