Mynd i'r cynnwys

Mynwentydd Penmachno

Mynwentydd Penmachno

mynwent

Mae’r Cyngor Cymuned yn berchen ar ac yn rheoli’r mynwentydd yn Eglwys Sant Tudclud ac Arwelfa. Mae Mynwent yr Eglwys bellach yn llawn felly Mynwent Arwelfa a ddefnyddir ar gyfer claddedigaethau newydd. Daw’r arian ar gyfer cynnal a chadw’r mynwentydd o ffioedd claddu ac o dreth y Cyngor.

Ffioedd Cyfredol

Ymadawedig yn byw oddi mewn i Fro Machno:

  • Bedd newydd: £300
  • Ail-agor bedd: £200
  • Plot claddu llwch: £100

Ymadawedig yn byw oddi allan i Fro Machno:

  • Bedd newydd: £600
  • Ail-agor bedd: £400
  • Plot claddu llwch: £200

Cysylltwch â’r Clerc am wybodaeth bellach neu i drefnu claddedigaeth.

Rheloau Mynwent Arwelfa Penmachno

  1. Rhaid i’r plot / bedd ar gyfer pob claddedigaeth newydd fod yr un y cytunwyd gyda’r Clerc a’i gofnodi ar y cynllun a gedwir ganddo.
  2. Mae derbyn caniatâd i gladdu yn cynnwys yr hawl i osod carreg fedd.
  3. Codir un taliad yn ôl y ffioedd a ddangosir; nid oes rhaid talu’n ychwanegol am osod carreg fedd.
  4. Dylai pob carreg fedd fod o faint a phatrwm tebyg i’r rhai sydd eisoes yn y fynwent. Rhaid cytuno ar unrhyw garreg fedd sy’n wahanol i’r arfer o ran maint neu batrwm yn ysgrifenedig gyda’r Clerc ymlaen llaw.
  5. Mae gan y Cyngor Cymuned yr hawl i orchymyn symud unrhyw garreg fedd a ystyrir yn anaddas.
  6. Gwaherddir gosod cerrig, railings neu addurniadau ar neu o amgylch y bedd na chwaith i blannu coed, planhigion neu flodau.
  7. Nid yw Cyngor Bro Machno’n gyfrifol am agor a chau beddi. Nid yw’r ffioedd a ddangosir isod yn cynnwys pris agor a chau beddi. Yr ymgymerwr fydd yn gyfrifol am wneud trefniadau agor a chau beddi.
  8. Torrwr beddi awdurdodedig yw Kevin Edwards
  9. Wrth gloddio bedd newydd, rhaid i bridd gael ei dynnu o’r fynwent gan y cloddiwr bedd