CYNGHORWYR
Mae’r naw cynghorydd cymuned yn bobl leol o amrywiaeth o gefndiroedd sy’n gweithio’n wirfoddol ac yn ddi-dâl er budd y gymuned. Hwy sy’n cynrychioli pobl eu hardal leol ar y lefel sydd agosaf i’r gymuned ac maent yno i leisio barn eu hetholwyr.
Gallwch gysylltu’n swyddogol â Chyngor Bro Machno drwy’r clerc neu gallwch drafod materion o ddiddordeb neu o bryder i chi gydag unrhyw rai o’r cynghorwyr.
Ward Cwm:
- Dafydd Gwyndaf, Llechwedd Hafod, Cwm Penmachno 01690 760241
- Wil Edwards, Hafod Dwyryd, Penmachno 01690 760671
Ward Penmachno:
- Bethan Corrigan, 1 Bron Llan, Penmachno 07964 823064
- Claire Roberts, 9 Maes-y-waen, Penmachno 01690 760554
- Dylan Davies (Is-Gadeirydd), Plas Derwen, Penmachno 01690 760362
- Eifion Davies, Awelfryn, Penmachno 01690 760459
- Eryl Owain (Cadeirydd), Tan-y-dderwen, Penmachno 01690 760335
- Geraint Thomas, Hafod-y-gwynt, Penmachno 01690 760388
- Owen Davis, 5 Fron Deg, Penmachno 01690 760212
Clerc:
Daniel Tomos. Gallwch gysylltu â’r clerc, ymaYmrwymiad gwleidyddol:
Nid oes unrhyw gynghorydd wedi datgan ymrwymiad gwleidyddolCod Ymddygiad:
Mae pob cynghorydd wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr Lleol.Cofrestr o Fuddiannau:
Nid oes gan unrhyw gynghorydd fuddiant busnes nac unrhyw fuddiant arall a allai wrth-daro â’u swyddogaeth fel Cynghorydd Cymunedol.
Cynghorydd Sir:
Dilwyn Roberts 10 Maes Melwr, Llanrwst LL26 0RY ffôn: 07786 094787ebost: cyng.dilwyn.roberts@conwy.gov.uk
Bydd y Cynghorydd Sir hefyd yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor Cymuned.
ETHOLIADAU
Cynhelir etholiadau arferol ar gyfer cynghorwyr lleol Cymru gyfan ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pum mlynedd. Rhaid bod dros 18 mlwydd oed a chyda cysylltiadau lleol cryf i fod yn gymwys i fod yn gynghorydd cymuned e.e. yn etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal cyngor, wedi bod yn berchennog neu denant unrhyw dir neu eiddo arall neu wedi gweithio’n bennaf neu yn llwyr yn yr ardal cyngor yn ystod y 12 mis blaenorol neu wedi byw yn yr ardal cyngor (neu o fewn 3 milltir iddi).
Cynhaliwyd yr etholiadau diwethaf ddydd Iau 5 Mai 2022.
Cynhelir yr etholiad nesaf ym Mai 2027.
Cyngor Sir Conwy sy’n gyfrifol am weinyddu’r etholiadau hyn o fewn y sir. Bydd papurau enwebu ar gyfer gwasanaethu fel cynghorydd ar gael gan Swyddog Etholiadau’r Cyngor Sir.